Ystafelloedd

Rooms

Yr ystafelloedd

Mae Canolfan Tregarth yn cynnwys dwy ystafell gyfarfod a dwy neuadd fawr, sef Neuadd John Ogwen a'r Brif Neuadd. Neuadd John Ogwen yw cartref parhaol Cylch Meithrin Tregarth ond mae'r ystafelloedd eraill ar gael i'r cyhoedd: 


Yr Ystafell Gyfarfod:  Ystafell eithaf mawr yw'r Ystafell Gyfarfod. Mae'n addas ar gyfer cyfarfodydd grwpiau eithaf mawr. Gwnaed gwaith ar acwsteg yr ystafell hon yn ddiweddar. Mae'n cael ei defnyddio gyda grwpiau canu a bandiau bach ar y funud.

Yr Ystafell Bwyllgor: Ystafell fechan sgwâr yw'r Ystafell Bwyllgor. Mae'n addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd grwpiau bach.

Y Brif Neuadd: Mae'r Brif Neuadd yn addas ar gyfer gweithgareddau ymarfer corff, ymarfer bandiau cerdd mawr, dawns ayyb. Gweithiwyd ar acwsteg well ar gyfer yr ystafell hon yn ddiweddar hefyd. Mae grŵp lleol Wu Shu Kwan, sef math o gic bocsio Tsieineaidd, yn defnyddio'r Brif Neuadd ar gyfer grwpiau oedolion a phlant.

Y Gegin: Mae'r gegin yn cynnwys popty ac offer angenrheidiol ar gyfer coginio syml. 


Mwy o fanylion yr yr adran CYFLEUSTERAU ■ FACILITIES.

The rooms

The Tregarth Center includes two meeting rooms and two large halls, the John Ogwen Hall and the Main Hall. John Ogwen Hall is the permanent home of Cylch Meithrin Tregarth but the other rooms are available to the public:


The Meeting Room: The Meeting Room is a large room. It is suitable for fairly large group meetings. The acoustics of this room have been worked on recently. It is being used with singing groups and small bands at the moment.

The Committee Room: The Committee Room is a small square room. It is suitable for small group meetings.

The Main Hall: The Main Hall is suitable for exercise activities, large music band practice, dance etc. The acoustics of this room have also been improved recently. The local Wu Shu Kwan group, which is a form of Chinese kickboxing, uses the Main Hall for adults and children.

The Kitchen: The kitchen includes an oven and necessary equipment for simple cooking.


More information in the  CYFLEUSTERAU ■ FACILITIES section.

LLOGI YSTAFELLOEDD  

Mae amrywiaeth o sesiynau ar gael i’r cyhoedd yng Nghanolfan Tregarth. Unwaith y byddwch wedi cysylltu gyda bydd ein Swyddog Llogi yn trafod ein telerau a chyfarwyddiadau gyda chi ac yn ateb eich cwestiynau.

Nid yw’r Ganolfan yn cael ei defnyddio gymaint yn ystod y bore a’r prynhawn ac mae’n siŵr o fod yn haws llogi ystafell ar yr adegau hyn o’r dydd.

Gofynnir i chi roi sylw i'r pwyntiau canlynol a'u rhoi ar waith: 


1 Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r trefniadau argyfwng: lleoliadau'r larwm tân, diffoddwyr tân,  drws tân (mynedfa yn unig - /   ar y map), drysau allanol (drysau panig -   ar y map.) yn y brif Neuadd ac yn yr Ystafell Gyfarfod. 

2 Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad.

3 Mae’n bwysig trefnu amser gosod adnoddau a glanhau ar ddiwedd digwyddiadau.

4 Gofynnir i ddefnyddwyr ddod â bagiau bin, llieiniau golchi a sychu llestri.

5 Gofynnir i ddefnyddwyr fynd â’u gwastraff, gwastraff bwyd yn arbennig, adref gyda nhw ar ddiwedd sesiynau. NI CHANIATEIR DEFNYDDIO’R BINIAU GLAS, ac yn enwedig y BIN GWYRDD (mae’r biniau hyn ar gyfer ein prif ddefnyddiwr, sef CYLCH MEITHRIN TREGARTH yn bennaf. (Bydd y biniau gwyrdd yn cael eu casglu bob tair wythnos yn unig!).

6 Gofynnir i ddefnyddwyr ail-osod cadeiriau, byrddau ac adnoddau fel yr oeddent, clirio'r ystafelloedd yn llwyr a glanhau'r llawr os oes angen.

7 Nodyn ychwanegol : Rydym yn agor drysau allanol (drysau panic -   ar y map) fel rheol pan fydd etholiadau yn cael eu cynnal yn yr adeilad. Roedd agor drysau yn bwysig ar un  adeg, yn ystod cyfnod Cofid-19. Holwch y Swyddog Llogi am y posibilrwydd hwn os ydych chi'n wir angen agor drysau.

HIRING ROOMS

A variety of sessions are available to the public at Canolfan Tregarth . Once you have contacted us our Hiring Officer will discuss our terms and instructions with you and answer any queries.

Canolfan Tregarth is not used as much during the morning and afternoon and it is sure to be easier to hire a room at these times of the day.

We ask you to look into the following points and implement them:


1 It is important that you are aware of the emergency arrangements: fire alarm locations, fire extinguishers, fire doors (entrance only - /  on the map), exit doors (panic doors -    ar y map) in the main Hall and in the Meeting Room. 

2 Smoking is not permitted in the building.

3 It is important to organize a time to set up resources and clean up at the end of events.

4 Users are asked to bring bin bags, washcloths and dish towels.

5 Users are asked to take their waste, especially food waste, with them at the end of sessions. THE USE OF THE BLUE BINS, and especially the GREEN BIN, IS NOT ALLOWED (those bins are for our main use, they are mainly used by the TREGARTH CYLCH MEITHRIN nursery school (Green bins are only collected every three weeks!).

6 Users are asked to re-arrange chairs, tables and resources as they were on arrival, clear completely and clean the floor if necessary.

7 Additional note : We normally open the exit doors (panic doors -   on the map) when official elections are held in the building. Opening doors was once crucial, during the Covid-19 period. Ask the Hiring Officer about this possibility if you really need to open doors.

CYFLEUSTERAU  

Noder bod gan Ganolfan Gymunedol Tregarth cegin, toiledau, toiledau i bobl anabl. Mae'n bosibl cyrraedd yr adeilad gyda chadair olwynion yn ddidrafferth. 

1 Toiledau : Toiledau dynion, merched, toiled anabl sydd  hefyd yn doiled newid babis. 

2 Diogelwch : Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r trefniadau argyfwng ychwanegol hyn:

Mae 'na ddrws tân yn y fynedfa (/   ar y map) a phedwar drws allanol (drysau panig -   ar y map).  Mae 'na ddiffoddwr tân yn pob stafell. Mae'r gyfundrefn hon yn cael ei wirio'n flynyddol. Mae 'na system larwm ar gyfer yr adeilad a lle ymgynnull tu allan - wrth ymyl yr hysbysfwrdd.

3 Y Gegin :  Fel y dwedwyd yn yr adran LLOGI STAFELLLOEDD ■ HIRING ROOMS, mae'r gegin yn cynnwys popty a nwyddau angenrheidiol ar gyfer coginio syml gan gynnwys tipyn o gwpanau, llestri  a llwyau.  Yn anffodus nid oes gennym ni digon o lestri ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau. Gofynnir i chi yn hyn o beth dod â'r llestri eich hunain, bagiau bin, llieiniau golchi a sychu llestri.

4 Gwres canolog : Mae 'na fotwm gwres canolog ar gyfer stafelloedd unigol yn stafell fechan y boeler. Gofynnir i chi defnyddio'r system gwresogi hon yn gyfrifol a diffodd y gwres ar ddiwedd sesiynau.

FACILITIES

Note that Tregarth  Community Center has a kitchen, toilets, toilets for disabled people. It is possible to reach the building with a wheelchair without difficulty.

1 Toilets : Men's, women's toilets, a disabled toilet which is also a baby changing toilet. 

2 Safety : It is important that you are aware of the following additional emergency arrangements

There is a fire door in the entrance ( / on the map) and four external doors (panic doors - on the map). There is a fire extinguisher in every room. This system is checked annually. There is an alarm system for the building and a gathering place outside -next to the notice board.

3 The Kitchen :  As said in the section LLOGI STAFELLLOEDD ■ HIRING ROOMS, the kitchen contains an oven and appliances necessary for simple cooking including some cups, plates and spoons. Unfortunately we do not have enough crockery for a variety of events. In this respect you are asked to bring your own crockery, bin bags, washing and drying cloths.

4 Central Heating : There is a central heating button for individual rooms in the small boiler room. You are asked to use this heating system responsibly and turn off the heat at the end of sessions.

Maint y stafelloedd cyfarfod■■■

 ■■■Size of the meeting rooms