Yr Hen Orsaf■■

■■■The Old Station

Adnodd i'r Gymuned Heddiw■■

Cysylltwch â ni

Today a Ressource for the Community■■■

Contact us


Ychydig o hanes


Mi fu hen orsaf Tregarth yn wag am sbel cyn 1982. Doedd hi ddim yn cael ei defnyddio o gwbl, heblaw gan glwb pensiynwyr - CLWB TEGAI - hynny yw bob bythefnos. Aeth nifer o bentrefwyr ati i gynnig estyniad a gwelliannau  ar yr adeilad er mwyn sefydlu canolfan gymunedol oedd wir ofyn amdani.


Sefydlwyd Pwyllgor Rheolaeth ac aeth hwnnw ati i gyflwyno cais o flaen y Swyddfa Gymreig, Cyngor Sir Gwynedd a Chyngor Cymuned Llandygai. Derbyniwyd grant er mwyn matsio'r cynllun codi pres y gymuned leol a gweithredu'r cynllun.


Cyflogwyd adeiladwr lleol a chafodd yr adeilad ei gorffen ym 1982. Costiodd y  cynllun dros £ 42 000. Mi gymerodd saith mlynedd i dalu'r benthyciad yn ôl.


History


The old Tregarth station was empty for a while before 1982. It was not used at all, except by a pensioners club - CLWB TEGAI - that every two weeks. A number of villagers set out to propose an extension and improvements to the building in order to establish a much needed community centre.


A Management Committee was established and proceeded to present an application to the Welsh Office, Gwynedd County Council and Llandygai Community Council. A grant was received in order to match the plan to raise money of the local community and implement the plan.


A local builder was employed and the building was completed in 1982. The project cost over £42,000. It took seven years to pay back the loan.

Canolfan Tregarth a'r Gymuned Leol

Mi fu crin dipyn o frwdfrydedd yn y gymuned, boed ymysg yr hen a'r ifainc ar ôl sefydlu CANOLFAN TREGARTH. Roedd CLWB TEGAI, y  W.I. a MERCHED Y WAWR yn defnyddio'r GANOLFAN fel eu cartref sefydlog. Roedd yn bosib erbyn hyn cynnal  llu o weithgareddau cymdeithasol wythnosol megis Whist Drives a Bingo nad oedd yn bosib trefnu cynt. Roedd CANOLFAN TREGARTH yn lle amlwg ar gyfer cynnal cyfarfodydd y CYNGOR CYMUNED, pleidiau gwleidyddol, sefydliadau crefyddol.

Sylweddolodd pobl ifainc lleol bod 'na le ar gael iddyn nhw hefyd, o'r diwedd. O ganlyniad sefydlwyd y CLWB IEUENCTID. Roedd pobl ifainc yn cyfarfod yno dwywaith bob wythnos yn ystod y gaeaf. Cafodd y GANOLFAN ei defnyddio gyda dau glwb pêl-droed pobl ifanc ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Roedd y GANOLFAN yn lle delfrydol ar gyfer crefftau ymladd megis Judo a bocsio tai.

Canolfan Tregarth and the Local  Community

There has been quite a bit of enthusiasm in the community, both among young and old people as a result of the establishment of the CANOLFAN TREGARTH community centre. CLWB TEGAI, the W.I. and MERCHED Y WAWR used CANOLFAN TREGARTH as their permanent home. It was now possible to hold a host of weekly social activities such as Whist Drives and Bingo which were previously impossible to organise. CANOLFAN TREGARTH was a prominent place for holding meetings of the COMMUNITY COUNCIL, political parties, religious organizations.


Local young people realized that there was a place available for them too, at last. As a result the YOUTH CLUB was established. Young people met there twice a week during the winter. The CENTRE was used with two youth football clubs on Saturdays and Sundays. THE CENTRE was an ideal place for martial arts such as Judo and house boxing.

2 0 2 3

Mae crefftau ymladd dal yn atyniad heddiw. Mae'r Ganolfan yn cael ei defnyddio gyda  grŵp lleol Wu Shu Kwan, sef math o gic bocsio Tsieinëeg. Mae'n croesawi amrywiaeth o grwpiau, yn ogystal â theuluoedd ar gyfer partïon pen-blwydd er enghraifft. Mae'n croesawi  grŵp drymiau, grwpiau canu neu fandiau lleol hefyd, ond mae'r Clwb Ieuenctid wedi cau erbyn hyn.

CYCHWYN NEWYDD

Mae digwyddiadau megis y pandemig Cofid, y ffaith bod y Clwb Ieuenctid wedi cau  a'r angen sydd i wella'r adeilad wedi rhoi cyfle i Bwyllgor y Ganolfan cymryd stoc.  Mae gan y ganolfan stafell ychwanegol erbyn hyn sef y STAFELL GYFARFOD. Mae cyflwr yr adeilad wedi gwella ar ôl ail-feddiannu'r STAFELL GYFARFOD (CLWB IEUENCTID cyn hynny), gwaith paentio ac yn enwedig cymryd rhan yn y cynllun gwella'r ardal y CYLCH MEITHRIN. Mae gwaith ar acwsteg y STAFELL GYFARFOD a'r  NEUADD wedi digwydd. Bydd y gymuned yn sylwi ar arwyddion o groeso newydd sbon yn fuan. 

CROESO I GANOLFAN TREGARTH

Mae 'na groeso i chi gysylltu â ni i ymweld â'r adeilad os ydych chi â diddordeb ac yn chwilio am le i weithgaredd neu barti pen-blwydd er enghraifft.

Y PWYLLGOR

2 0 2 3

Martial arts are still an attraction today. Canolfan Tregarth is used by a local Wu Shu Kwan group - a form of Chinese kick boxing. It welcomes a variety of groups as well as families for birthday parties for example. It also welcomes a drum group, singing groups or local bands, but the Youth Club has now closed.

A NEW BEGINNING

Events such as the Cofid pandemic, the fact that the Youth Club has closed and the need to improve the building have given the Canolfan Tregarth Committee an opportunity to take stock. The centre now has an additional room which is the MEETING ROOM. The condition of the building has improved after the re-occupation of the MEETING ROOM (YOUTH CLUB prviously), painting work and especially taking part in the improvement plan for the CYLCH MEITHRIN nursery school area. Work on the acoustics of the MEETING ROOM and the HALL has taken place. The community will soon notice a brand new welcoming signs.

WELCOME TO CANOLFAN TREGARTH

You are welcome to contact us to visit the building if you are interested and looking for a place for an activity or a birthday party for example.


THE COMMITTEE